Croeso i Ddeoniaeth Tyddewi, sydd wedi’i henwi                                                           ar ôl Dewi, nawddsant Cymru.  Lleolir eglwys gadeiriol y ddeoniaeth yn Sir Benfro, ac fe’i chyfrir yn un o drysorau’r genedl. Yn rhan o’r Ddeoniaeth hefyd mae siroedd Ceredigion a Chaerfyrddin, yn cynnwys cymoedd diwydiannol y gorllewin a thref Llanelli.

Mwy o hanes y ddeoniaeth….(i ddod)

Gwefan Eglwys Gadeiriol Tyddewi….(i ddod)

Swyddfa’r Ddeoniaeth

 

 

ORDEINIADAU 2018

Bydd chwech offeiriad a phedwar diacon newydd yn cael eu hordeinio gan yr Esgob Joanna, mewn gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, ar Ddydd Sadwrn, y 30ain o Fehefin.

Rhestr Offeiriaid
Rhestr Diaconiaid

 

BUDDSODDI MEWN EFENGYLIAETH: 

£250k – £3m ar gyfer Prosiectau Esgobaethol

Lansiwyd cronfa newydd sylweddol o £10m fis diwethaf, gyda’r ffocws ar brosiectau uchelgeisiol i feithrin Cristnogion newydd ar draws Cymru.

Mae’r Eglwys yng Nghymru yn creu’r Gronfa Efengyliaeth gyntaf o’i math er mwyn annog y gymuned Gymreig i fynd i’r afael â’r ffydd Gristnogol, a hynny mewn ffyrdd egnïol a chyffrous. 

Fe fydd grantiau o rhwng £250,000 a £3m ar gael i brosiectau esgobaethol sy’n rhoi’r ffocws ar bobl yn hytrach nag adeiladau. Rheolir y gronfa gan bwyllgor sy’n arbenigo yn nhwf eglwys a mentrau busnes. Bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei roi at ei gilydd mewn modd proffesiynol ac fe fydd y gost o gyflogi rheolwr prosiect yn gynwysiedig.

Bydd manylion pellach am y Gronfa Esgobaethol yn cael eu rhannu yn y misoedd nesaf, ac fe fyddant yn cynnwys manylion ynglyn â sut y gall esgobaeth fynd ati i gyflwyno cais.

Mae’r arian yn y gronfa yn cael ei ryddhau o fuddsoddiadau’r Eglwys, sy’n cael ei arolygu gan Gorff y Cynrychiolwyr. Medd y Corff, “Rydym yn awyddus i sicrhau fod arian yr Eglwys yn cael ei wario yn y modd gorau posib, a hynny ar brosiectau effeithiol sydd wedi’u rhoi at ei gilydd yn dda.”

“Byddwn yn chwilio am syniadau sy’n cynyddu niferoedd yn y grwpiau oedran lleiafrifol yn ein heglwysi, er enghraifft, syniadau sy’n creu mathau newydd o “eglwys” i apelio at bobl sydd ddim yn mynychu eglwys ar hyn o bryd, a phrosiectau fydd yn arwain at newididau mewn diwylliant neu fydd yn darparu addysg mewn ffydd a chyfleoedd addysgu dros Gymru gyfan.