Pobl Dewi a Mwy

Atodiad i bapur newydd chwarterol yr esgobaeth

Yn anffodus nid yw’n bosib cynnwys yr holl ddeunydd a dderbynir, felly mae PD “Extra” yn gyfle:

  • i fwrw golwg dros erthyglau gafodd eu hepgor ond sy’n deilwng o le
  • i gynnwys deunydd ychwanegol at erthyglau gafodd eu cynnwys, ond mewn ffurf golygedig
  • i gynnwys cyfieithiadau Saesneg o rai erthyglau a argraffwyd yn Gymraeg

Mawrth 2020

Tud 5: Antur Eciwmeniaeth Cymuned Taizé    

Gweledigaeth am eciwmeniaeth sydd wedi siapio’r Gymuned Taizé ers iddi gael ei sefydlu yn Awst 1940.

Mae Suzy Bale, sydd â chysylltiad â’r alwedigaeth Taize ers dros 30 mlynedd, wedi ysgrifennu erthygl amdano.  Dyma gopi Saesneg o’r erthygl. (fersiwn estynedig Saesneg o’r erthygl a ysgrifennwyd yn Gymraeg)

Tud 14: Amser Cyffrous (yn y “crease”)

Nôl yn y 1950au a’r 60au, Tîm Criced Esgobaeth Tyddewi oedd y tîm i’w guro yn y gystadleuaeth rhyng-esgobaethol.

Felly y dywed Susan Jones, â’i thad, y Canon W. Glyn Jones yn aelod allweddol o’r tîm a chwaraeodd mewn dwy gêm rownd derfynol am y Cwpan Church Times.

Gallwch ddarllen ei hadroddiad o’r gêm fan hyn (fersiwn estynedig)

 

 

Tud 19: Gŵyl Coed Nadolig Pembre

Daeth dros 1,000 o ymwelwyr i’r bedwaredd Ŵyl Coed Nadolig yn Eglwys Sant Illtyd, Penbre, ym mis Rhagfyr. 

Fersiwn estynedig o’r erthygl

 

 

 

Pererindod i’r Wlad Sanctaidd – profiad personol

Yn ystod mis Medi 2019 aeth grŵp o bererinion o Eglwys Sant Mihangel, Borth, i ymweld â mannau cysegredig yn y Wlad Sanctaidd. Yn rhifyn Rhagfyr o Pobl Dewi, roedd yna adroddiad am gynlluniau grŵp o Sant Catherine, Brynaman, i wneud yr un peth. Yn aml iawn mae’r daith hon ar restr Cristnogion o bethau i’w gwneud cyn marw. Felly, beth ellir ei ddisgwyl? Roedd Mike Clarke ar y daith honno ym mis Medi, ac mae e’n disgrifio’r profiad i ni.

Yn anffodus doedd dim lle i’r erthygl yn rhifyn mis Mawrth, felly dyma hi:

Erthygl Mike

 

FFARWELIO A DIOLCH

Bore coffi Dydd Mawrth Ynyd Eglwys Llandysul, lle y cyflwynwyd rhodd i`r Parch Beth Davies am ei gwasanaeth i`r plwyf cyn iddi symud i AWL Aeron Bro Mydr ar ddechrau mis Mawrth. Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi`r bore, i Mrs Enfys Wyse am y pancws hyfryd ac i ferched y te. Bore hyfryd.

 

 

Ar ddydd Gŵyl Dewi, yn Eglwys Sant Ffraid, Tregroes, cafwyd gwasanaeth arbennig o ddathlu ar Sul olaf y Parch Beth yn y plwyf. 

Mor braf oedd gweld y plant wedi gwisgo yn eu dillad Cymreig a phawb yn cymryd rhan.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Wardeniaid Eglwys St Ffraid Tregroes, – Mair Davies a Rhian Jones, yn cyflwyno siec o £300 i’r Hybarch Eileen Davies ar ran Tir Dewi, mewn noson o bancws ar ddydd Mawrth Ynyd. Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi.

 

 

 

December 2019

Tud 3: Dod i adnabod ein gilydd

Un o’r heriau sy’n wynebu Cristnogion yn yr Ardaloedd Gweinidogaethol Lleol newydd, yw sut i ddod i adnabod ei gilydd yn well. Mae Lyn Dafis wedi amlinellu enghraifft llwyddiannus yn AGLl Bro Padarn. Ysgrifennwyd yr erthygl yn Gymraeg, a gellir darllen fersiwn Saesneg fan hyn.

 

Tud 12: Digwyddiadau Llyfrgell y Gadeirlan – llyfrau, yr hynafol a’r cyfoes

Mae Mari James, Swyddog Datblygu Llyfrgell Cadeirlan Tyddewi, yn edrych nôl dros un o uchafbwyntiau rhaglen 2019, ac yn edrych ymlaen at un arall yn 2020, sef lansiad newydd o hanes Yr Eglwys yng Nghymru i nodi dathlu’r canmlwyddiant.

Erthygl Mari a rhaglen y lansiad

 

Tud 16: Yr Ail Ryfel Byd: Stori Ifaciwî

I filiynau o blant a orfodwyd i adael eu teuluoedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd hwn yn amser dirdynnol. Ond i rai roedd e’n antur rhyfeddol, a dychwelyd adre oedd yr her. Heddiw, mwy na saith degawd wedi terfyn y rhyfel, mae nifer o ifaciwîs yn adrodd eu hanesion am y tro cyntaf.

Mae Albert Smith yn un o’r rheiny. Bu’n adrodd ei hanes i’r Parch Shirley Murphy

Fersiwn estynedig o erthygl Shirley

 

 

Medi 2019

Tud. 3: Faith on the Art Trail / Ffydd ar y Llwybr Celf

(fersiwn estynedig o erthygl gan y Parch. Ddr Caroline Jones)

Ers iddi ddod yn Ganon ym mhentref Garnant, Dyffryn Amman, mae Caroline Jones wedi cael ei synnu, eto, wrth weld pa mor effeithiol gall Celf fod fel arf i gynorthwyo gyda myfyrdodau a gweithdai.

Mae hi’n disgrifio sut y defnyddiodd hyn yn ei gweinidogaeth, gan gynnwys ymweliad ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Dilynwch y linc yma i ddarllen yr erthygl cyflawn

 

Tud. 13: Under threat in India / Dan fygythiad yn India

Yn India mae Cristnogion dan fygythiad wrth i eithafwyr Hindwaidd eu herlid am eu crefydd.

Mae cyfres o achosion o erlid wedi peri gofid i nifer o Gristnogion Indiaidd ar ôl i Blaid Bharatiya Janata gael ei ail-ethol. Ers eu buddugoliaeth yn etholiad cenedlaethol India, cofnodwyd o leiaf saith ymosodiad yn erbyn Cristnogion a hynny mewn cyfnod o ddwy wythnos yn unig. Bu Shirley Murphy yn cyfweld un unigolyn sydd yn dymuno aros yn ddi-enw am resymau diogelwch:

Dilynwch y linc yma i ddarllen fersiwn estynedig o erthygl Shirley yn Pobl Dewi

 

EXTRA: St Padarn’s Summer School / Ysgol Haf Padarn Sant

O’r 21-26 Gorffennaf, cynhaliwyd Ysgol Haf Padarn Sant ym Mhrifysgol De Cymru Trefforest, Pontypridd. Bu J-D Laurence, Tiwtor Padarn Sant ar gyfer Esgobaeth Tyddewi yn mwynhau’r wythnos.  Gellwch ddarllen yr hanes wrth ddilyn y linc yma.

 

EXTRA: Llangwm – a new pilgrimage route? / Llangwm – llwybr newydd i bererinion?

Mae 2019 wedi bod yn flwyddyn o bererindota i eglwys Sant Jerome yn Llangwm, a hynny i oedolion a phlant.

Sant Jerome yw man cychwyn llwybr pererindod 100km “Ffordd Dewi Sant” i Dyddewi hefyd, gan ddilyn llwybr yr arfordir o Neyland ac Aberdaugleddau i Dale, Little Haven, Newgale a Solfa.

Mwy o wybodaeth

EXTRA: The Tiles of St Davids / Teils Dewi Sant

Yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi mae un o’r casgliadau mwyaf o deils canoloesol yng Nghymru, a hynny ar balmant canoloesol seintwar y Gadeirlan.

Efelychwyd patrymau’r teils gan y pensaer Gilbert Scott yn yr 1860au, pan adnewyddwyd y twr a’r seintwar, a gellir eu gweld o flaen reilen yr allor ac ar wrth leoliad gogleddol a deheuol seddi’r côr yn y Gadeirlan.

Cafodd darn newydd arbennig o waith gan Martin Crampin, yn seiliedig ar un o’r patrymau, ei ddangos yn yr holl eglwysi yn Sir Benfro oedd yn rhan o arddangosfa “Celf ar Lwybr y Ffydd” yn 2019.