Sut allwn ni helpu?
Mae’r Tîm Plant ac Ieuenctid wedi ymrwymo i ddarparu’r cyfleoedd gorau posib ar gyfer datblygu gweinidogaeth i blant a phobl ifanc.
Cynhelir hyfforddiant rheolaidd gan y tîm, i amrediad eang o weinidogaethau. Ond mae angen i ni gael gwybod beth yw eich anghenion CHI ar gyfer 2019.
Helpwch ni drwy gwblhau arolwg byr fel y gallwn greu’r gweithdai a’r cyrsiau sydd angen arnoch:
angen arnoch:
https://www.surveymonkey.co.uk/r/WW9WJGT
HYDREF ac ADFENT: Digwyddiadau….
Disgo a sioe hud a lledrith i blant yn sôn am Iesu fel goleuni’r byd. Bydd balwn a siocled i bawb. Rhaid cael oedolyn efo pob plentyn. Cysylltwch os hoffech ddod.
Diwrnod Hyfforddi Profiad Adfent
Tachwedd 3ydd, 10.30-12.30, Neuadd Eglwys y Drindod Sanctaidd, Aberaeron
Lluniaeth ar gael. Dyma gyfle i weld y profiad ar waith, i gerdded drwyddo, i ofyn cwestiynau ac i gael pecynnau adnoddau Cymraeg a/neu Saesneg. Gellir benthyg yr adnoddau yn ogystal, ac mae Clare ar gael ar rai dyddiadau yn ystod mis Rhagfyr i’ch helpu i weithredu’r profiad yn eich eglwys chi.
Mae’r ymgyrch 95 wedi deillio o ganlyniad i arolwg sy’n dangos nad yw 95% o blant a phobl ifanc yn mynychu eglwys ar y Sul.
Tri cham sydd i’r ymgyrch: cyflwyniad, hyfforddiant a gweithredu, ac mae’n digwydd yn eich eglwys chi.
Os oes gennych ddiddordeb darllenwch y llythyr hwn