Pam annog eglwysi i weithio ac addoli ar draws rhaniadau enwadol?
Ar noson y Swper Olaf gweddiodd yr Iesu y byddai ei ddisgyblion yn un Eglwys.
Dangosodd hanes pa mor niweidiol y gall rhaniad fod i genhadaeth a gweinidogaeth y gymuned Gristnogol.
Y mae’r Eglwys yng Nghymru yn aelod gweithredol o Cytûn – Eglwysi gyda’i Gilydd yng Nghymru, ac hefyd wedi bod mewn perthynas gyfamodol gyda’r Presbyteriaid, Methodistiaid, Eglwysi Diwygiedig Unedig a Bedyddwyr Cyfamodol yng Nghymru ers 1975.
Cyrff ymbarel ecwmenaidd yng Nghymru
Y mae’r Tîm Ecwmenaidd Esgobaethol yn ceisio annog plwyfi i weithredu gydag eglwysi eraill mewn pob mater heblaw eu bod yn cael eu gwahanu gan wahaniaethau credoau dwfn. Y mae aelodau o’r Tîm yn ymwneud â changhennau lleol o Cytûn, a gweithredoedd o ffydd a chenhadaeth ar y cyd.
Y mae llawer o’u gwaith yn cwmpasu Prosiectau Ecwmenaidd lleol. Ond y mae meini prawf wedi eu gosod i ddangos sut,ble a gyda phwy y gellir gwneud rhain.
Am fwy o wybodaeth am ecwmenaiaeth ewch at y ddolen Llawlyfr Ecwmeniaeth neu cysylltwch a’r tîm.