Loading Digwyddiadau

« All Digwyddiadau

Diwrnod VE 75

Gwe 8 Mai - Sul 10 Mai

VE DAY 75

Ar ôl bron i chwe mlynedd o ryfel, yr 8fed o Fai 1945 oedd y diwrnod pan ddisgynnodd heddwch. Mae’r 8fed o Fai 2020, felly, yn garreg filltir bwysig iawn yn ein hanes gan ei fod yn nodi 75 mlynedd ers i hyn ddigwydd.

Bydd dathliadau Diwrnod VE 75 yn digwydd ar benwythnos yr 8fed – 10fed o Fai 2020. Fe fydd yn ddathliad rhyngwladol o heddwch – amser i gofio, myfyrio a thalu teyrnged i’r miliynau a fu’n rhan allweddol o’r broses o sicrhau heddwch.

Mae amrediad eang o weithgareddau cenedlaethol wedi eu trefnu ar gyfer y penwythnos, ond mae eglwysi a sefydliadau eraill yn cael eu hannog i gymryd rhan yng ngweithgareddau eu cymunedau.

Mwy o wybodaeth / Sut allwch gymryd rhan

Manylion

Cychwyn:
Gwe 8 Mai
Gorffen:
Sul 10 Mai