Gweinidogaeth Drawsnewid

Gweinidogaeth Drawsnewid: Datblygiad Gweinidogaeth Ardal

Y mae’r Esgobaeth yn symud tuag at ailosod plwyfi traddodiadol gydag Ardaloedd Gweinidogaethol Lleol (AGL) erbyn Ionawr 2020

 

Apwyntiodd yr Esgob Swyddog Datblygu Ardal Gweinidogaeth/ Cenhadwr Trawsnewid, Parch.Marianne Osborne, i helpu eglwysi ar  y ffordd ymlaen i’r dyfodol.

Y mae hi’n arwain tîm cenhadol sy’n addas i helpu cymunedau eglwysig lleol gyda’r trawsnewid.

“Nid yw’r newid ar ddod” meddai,”y mae yma ond gallwn ei gofleidio os gweithiwn ni ynghyd”.

 

 

Cyflwynodd Marianne ddiweddariad o’r broses yng Nghynhadledd Esgobaethol 2018:

 

Mae Simon Thane, sy’n Genhadwr Trawsnewid, yn disgrifio’r broses o weithredu’r newidiadau.

Mewn gwirionedd mae hwn yn esgus bendigedig i mi gael ymweld â nifer o eglwysi a sgwrsio gyda phobl (48 o eglwysi ar hyn o bryd), a hynny mewn rhannau hanesyddol a diddorol ar hyd a lled ein esgobaeth wledig hyfryd.

Mae’n gyfle i siarad gyda phob un o’r timau gweinidogaethol ac i wrando ar grwpiau amrywiol o arweinwyr addoliad, wardeniaid ac aelodau o Gynghorau Plwyf Eglwysig ar draws ardal weinidogaethol benodol.

Mae’r lletygarwch a’r croeso wedi bod yn ardderchog..ond dim cystal wrth wylio’r pwysau! Mae naws anffurfiol a hamddenol i’r cyfarfodydd; rydym yn cymryd nodiadau ac yna’n cofnodi popeth mewn adroddiad. Dyma adroddiadau sy’n hynod o ddiddorol i’w paratoi  gan eu bod yn rhoi darlun real iawn o’r sefyllfa fel ag y mae, wrth i ni wynebu’r newidiadau.

Da o beth yw sylwi ar enghreifftiau pan mae pethau newydd yn cael eu trio gydag egni a brwdfrydedd, a gweld cyfleoedd posib am dwf a chydweithio pellach.

I mi, mae’r broses wedi amlygu gwerthoedd a hunaniaeth unigryw pob eglwys a’i chynulleidfa; eu hanes, eu gweinidogaeth, eu cryfderau, eu hysbryd a’u galwad arbennig. Er fod pryderon yn codi am y newidiadau yma, mae’r cyfoeth a’r amrywiaeth sydd i’w ganfod ar draws pob AGLl yn galonogol.

Un mater sy’n codi yn gyson yw: Rydym yn mynd drwy gyfnod o newid cymdeithasol mor bell ag y mae mynychu eglwys yn y cwestiwn, a’r hyn sy’n cael ei ofyn yw “Sut allwn ni gyrraedd yr ieuenctid hynny sydd ddim yn mynychu eglwys o gwbwl ar y Sul?”

Myfyrio ar hyn a gwrando ar alwad Duw i adeiladu’r Deyrnas mewn ffyrdd newydd yn ein cymunedau lleol yw’r sialens fwyaf sy’n wynebu pob AGLl.

Mae’r adroddiadau’n gorffen gyda (1) y farn gyffredinol ynglyn â beth yw’r prif gyfleoedd i gydweithio, a (2) beth yw’r prif sialensau sy’n wynebu’r AGLl.

Y gobaith yw fod y ddwy restr yn fan cychwyn defnyddiol i waith y cyngor newydd.

This article first appeared in the March 2019 edition of Pobl Dewi