Hanes y Ddeoniaeth

Y mae hanes esgobaeth Tyddewi yn hir ac amrywiol.  Gadawodd y seintiau  Celtaidd a thywysogion Cymreig, esgobion canoloesol a deddfwyr Fictoriaidd, ysgolheigion y Dadeni a diwynyddion Piwritanaidd, mynachod esthetig ac offeiriaid Sioraidd i gyd eu marc ar dirwedd sanctaidd helaeth. 

Y mae enwau dros 300 o’n heglwysi a ffynhonnau sanctaidd yn diogelu atgof cyltiau Dewi, a’i gyfoedion Teilo, Meugan, Brynach, Illtud a Phadarn  a afaelodd yn nhorch Cristnogaeth yn yr Ymerodraeth Rufeinig ac i’r Oesoedd Tywyll.

Ni ddiffoddwyd eu ffydd gan anrhaith Llychlynwyr na Goruchafiaeth Normanaidd ac ni niweidiwyd yn derfynol y fam eglwysi na’r celloedd meudwy, y traddodiad ysgolheigaidd ac esthetig, sgiliau cerfio cerrig a goliwio llawysgrifau.

Serch hynny, y Normaniaid yn bennaf a osododd ffurf yr esgobaeth a barhaodd tan 1923 pan, yn dilyn datgysylltiad, cerfiwyd esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu o’i hymyl Ddwyreiniol. 

Heddiw mae’n dal i fod yr esgobaeth fwyaf yng Nghymru, ond ers talwm fe ymestynnai at y ffin â Lloegr gan gynnwys plwyfi yn Swydd Henffordd, Gwent a Phowys. Y Normaniaid hefyd a greodd y system blwyfol sy’n dal mewn bodolaeth ar lefel llawr gwlad.

Codwyd, estynwyd a phrydferthwyd llawer o’n heglwysi plwyfol yn ystod y cyfnod rhwng y ddeuddegfed a’r unfed ganrif ar bymtheg, bron i gyd ar safleodd mwy hynafol.  Gwasanaethai’r eglwys ganoloesol y gymdeithas gyfan drwy ei dathliad litwrgaidd o rythmau bywyd drwy’r sacramentau.

Yr oedd pererindod yn chwarae rhan amlwg ym mywyd yr eglwys yn lleol ac mewn safleodd cydnabyddedig rhyngwladol megis Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Yn ystod Diwygiad yr unfed ganrif ar bymtheg parhaodd y tirlun crefyddol yn ei le i raddau helaeth ond am y tai crefyddol, ond gyda’i addasiad o’r litwrgiau canoloesol i bwysleisio goruchafiaeth Gair Duw a oedd newydd ei adennill, daeth tu mewn yr eglwysi lawer yn fwy llwm.

Yr oedd yr Esgob Richard Davies, Prif Gantor Thomas Huet a’r Esgob William Morgan, ffigyrau allweddol yn y fenter o gyfieithu’r Ysgrythur Sanctaidd i’r Gymraeg, i gyd yn ymwneud â’r esgobaeth ar yr adeg hon.

Arweiniodd cyfnodau mwy diweddar y Diwygiad filwyr Piwritanaidd i fandaleiddio’r eglwys gadeiriol gan ei gadael yn lled adfail am ganrifoedd. Difeddianwyd diroedd ac eiddo’r eglwys yn yr esgobaeth yn ystod y Gymanwlad.

Arweiniodd Dychweliad Siarl 11 at adferiad yr Eglwys Anglicanaidd yn ogystal â dyfodiad Ymneilltuaeth ar ran y Piwritaniaid anfodlon.

Ond arweiniodd canlyniadau ariannol adfeddiant lleyg o eiddo crefyddol yn y Diwygiad at amleglwysiaeth, tlodi rhemp ymysg llawer o’r clerigwyr, adeiladau adfeiliedig neu mewn cyflwr gwael, at gynnydd mewn Anghydffurfiaeth a Methodistaeth yn yr eglwys Sioraidd.

Gwelodd y ddeunawfed ganrif hwyr a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg Ddiwygiadau Efengylaidd a Thractaraidd ac yn ogystal â gweledigaeth esgobion fel Samuel Horsley, Thomas Burgess, Connop Thirlwall a Basil Jones a chyfreithloni eglwysig y cyfnod, egni newydd yn cael ei ryddhau a arweiniodd at atgyweirio ac ailgodi eglwysi hyd yn oed mewn ardaloedd gwledig yn ogystal â chodi eglwysi newydd i wasanaethu poblogaeth gynyddol yr ardaloedd diwydiannol newydd.

Y mae cyfnod diweddaraf hanes yr esgobaeth yn dechrau gyda throbwynt y Dadgysylltiad. Arweiniodd yr Esgob John Owen, a oedd wedi cwestiynu cynnydd y dadgysylltiad ac yna brwydro’n galed i sicrhau’r gorau am yr eglwys yn ei sgîl, yr esgobaeth yn ystod adeg ffurfiannol yr Eglwys yng Nghymru newydd.

Daeth yr esgobaeth drwy stormydd diweithdra enfawr, dirwasgiad amaethyddol a rhyfel byd, ond i wynebu, fel gweddill yr Eglwys yng Nghymru, o 1960au ymlaen gostyngiad mewn niferoedd.

Arweiniodd hyn at ostyngiad neu gau adeiladau eglwysig na ddylid wedi eu codi neu’u hadnewyddu yn ystod y cyfnod Fictorianaidd, proses sy’n parhau. Ond  y mae rhaglen gyffelyb o ad-drefnu arloesol sy’n rhoi ein heglwysi yn ôl yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. 

 

Heddiw yn yr unfed ganrif ar hugain, wrth i ni wynebu canmlwyddiant ein dadgysylltiad, y mae’r esgobaeth yn edrych ymlaen ac i’r tu allan, drwy Tyfu Mewn Gobaith, strategaeth at dyfiant sy’n ceisio adfywio ei chenhadaeth a’i gweinidogaeth mewn ad-drefniad sy’n argoeli bod y mwyaf am ganrifoedd.

 

Ac yn 2016, etholwyd gan Dyddewi esgob benywaidd cyntaf Cymru, y Gwir Barchedig Joanna Penberthy. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, apwyntiwyd i’r Eglwys Gadeiriol ein Deon benywaidd cyntaf- Y Gwir Barchedig Dr.Sarah Rowland Jones.