Llyfrgell Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Mae’r llyfrgell yn un o drysorau Eglwys Gadeiriol Tyddewi, a’r unig un o’i math sy’n dal ar ôl mewn eglwys gadeiriol yng Nghymru. I’w chyrraedd rhaid dringo i frig grisiau troellog sy’n dyddio nôl i’r Canol Oesoedd, ac sydd i’w canfod ger rhes gogleddol y côr.

Dros y canrifoedd mae’r llyfrgell wedi cael ei lleoli mewn gwahanol rannau o’r Eglwys Gadeiriol, ond ers hanner canrif bellach mae hi wedi bod yn yr un man.

Mae siambr y llyfrgell yn dyddio nôl i’r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac mae’n werth ei gweld. Bob ochr i’r lle tân gwreiddiol ar y wal orllewinol, mae dau fraced golau sy’n debygol o fod yn dyddio nôl i’r drydedd ganrif ar ddeg.

Yn ogystal, mae’r ffenest ddwyreiniol, y ffenest drionglog, y ffenest ochr ynghyd â’r ddwy sedd garreg hefyd yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud i’r ystafell; dyma lle ‘roedd ysgol ramadeg yr eglwys gadeiriol yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ar ôl i’r llawr rhwng Tŷ’r Siaptr a’r Trysordy gael ei dynnu allan.

Mae’r silffoedd llyfrau, y celfi ac ati yn rhoi gwedd ganoloesol i’r llyfrgell, ac mae’r drysau canolog yn edrych yn debyg i rai o’r ail ganrif ar bymtheg, er nad ydynt o’r cyfnod hwnnw. Mewn gwirionedd, mae’r ystafell a’r celfi yn rai o’r ugeinfed ganrif, ac nid casgliad canoloesol yw’r llyfrau chwaith.

Adnewyddwyd yr ystafell yn 1956-57 pan grewyd y llyfrgell er cof am yr Esgob W.T Havard a fu farw ym 1956, ac mae hyn i’w weld ar blatfform pren ar waelod y grisiau.

Mae oddeutu 7,000 o lyfrau ar amrywiaeth eang o bynciau yn y llyfrgell, ac yn ôl Ceidwad y Llyfrgell yn y 50au, Mrs Mary Buckland, nodwyd fod tua 4,500 o gyfrolau ar bynciau fel, – Archaeloleg, Pensaernïaeth, Botaneg, Llenyddiaeth Saesneg (seciwlar), Hanes a Chyfraith Ailargraffu Dogfennau, Adroddiadau, Gwyddoniaeth ac Athroniaeth, Diwinyddiaeth, Topograffeg a Thestunau Cymraeg.

 

Arddangoswyd y canlynol:

  • Lyndewode Parochiale 1505,
  • Calvin’s Sermons 1574
  • The History of Cambria and Camden’s Britannia 1600
  • Parry’s Welsh Bible 1620
  • Dr John Davies’ Dictionarium Duplex of 1632;
  • Dodoen (1578)
  • Gerrard’s Herbal (1636)
  • Works of Charles I a chopi o
  • Browne Willis’ Survey of St David’s 1717 (copi).

Ymhlith y casgliad heddiw mae llyfrau oedd yn eiddo i Ddeoniaid, fel James Allen (Deon o 1878-1895), Esgobion (fel yr Esgob John Owen 1897-1926) a chlerigwyr sy’n dyddio nôl i’r unfed ganrif ar bymtheg.

Mae yma hefyd gasgliad o luniau sy’n ymwneud â Thyddewi a’r penrhyn, yn ogystal â Dewi Sant, Cymru a Hanes yr Eglwys yng Nghymru. Mae’r adran hanes leol yn hynod o ddiddorol, gyda lluniau o’r eglwys gadeiriol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, yn ogystal ag argraffiadau o ganrifoedd cyn hynny.

Mae’r Llyfrgell yn ddyledus i grant sylweddol gan Ymddiriedolaeth y Pererinion, fel rhan o’r gwaith adnewyddu ar ôl y rhyfel, rhwng 1950 a 1956.