Neges Nadolig yr Esgob Joanna

“A ninnau unwaith eto ar fin dathlu genedigaeth Iesu ym Methlehem, da yw cofio ynghanol y tinsel a’r coed Nadolig, pa mor gythryblus oedd y digwyddiad, mewn gwirionedd.

Er nad oedd ei ddyfodiad yn ystafell deuluol tŷ preifat ymhlith yr anifeiliaid yn hytrach nag yn ystafell y gwesteion, lawn mor ddramatig ag a gyfleir gan storiau traddodiadol y geni, – nid dyna fyddai rhieni newydd, yn sicr, wedi ei gynllunio.

Nid felly, chwaith, y byddem ninnau – unrhyw un ohonom – wedi ei gynllunio ar gyfer “y Gair a wnaed yn gnawd.” Yn ôl Sant Luc, ni chyhoeddwyd genedigaeth Mab Duw ond i garfan o fugeiliaid, pobl yn weddol agos at waelod ysgol gymdeithasol y cyfnod.

Llawenhau a gogoneddu Duw fu eu tynged, o ganfod y baban yn y preseb. Yn ôl Sant Mathew, cwmni o dramorwyr a ganfu yn llythrennol y neges yn y sêr, ac achosi cryn gynnwrf yn llys y Brenin Herod, o rannu’r newyddion syfrdanol.

Ymlaen y teithiodd y dieithriaid nes canfod y brenin newydd-anedig, gan dalu gwrogaeth iddo a chyflwyno anrhegion, wrth i Herod anfon milwyr i’w ladd. Yn y cynnwrf dilynol, dihangodd Joseff, Mair a Iesu i’r Aifft, a dyna gychwyn bywyd i Iesu fel ffoadur: yn ein hiaith ni, ceisiwr lloches.

Priodol yw cofio y gallai gwaith gwaredigol a chymodlon Iesu, onibai am y croeso a dderbyniodd mewn gwlad estron, fod wedi darfod amdano cyn cychwyn.

Wrth i ni ddathlu’r Nadolig eleni, boed i ni gofio am y dieithriaid a’r ffoaduriaid yn ein plith, y rheiny a ddaeth i’r ynysoedd hyn i geisio ymgeledd a bywyd newydd, a gadewch i ni fod yn ddigon dewr i ganfod, yn y dieithryn, gyfaill cywir.”