Esgob Joanna PhD

Mae Joanna Penberthy, esgob Tyddewi, wedi ennill doethuriaeth am ei thraethawd ymchwil yn seiliedig ar y berthynas rhwng gwyddoniaeth, diwinyddiaeth a’r byd.

Derbyniodd yr anrhydedd o flaen aelodau o’i theulu mewn seremoni ym Mhrifysgol Nottingham ar y 23ain o Orffennaf. Dyma ddiwedd degawd o astudio, – a hynny yn ystod cyfnod pryd y gwelwyd hi’n cael ei apwyntio fel yr Esgob benywaidd cyntaf yng Nghymru.

Seiliwyd ei hastudiaeth ar draethawd gan y ffisegydd John Stewart Bell ym 1964, sy’n cael ei adnabod fel Bell’s Inequality, – datganiad mathemategol sydd wedi bod yn bwnc dadleuol ers ei gyhoeddi. Mae’n cyfeirio at drafodaeth enwog rhwng dau ffisegydd nodedig arall, Albert Einstein a Niels Bohr, sy’n mynnu fod rhyngweithiad rhwng digwyddiadau sy’n rhy bell oddi wrth ei gilydd yn y gofod ac yn rhy agos at ei gilydd mewn amser, sy’n galluogi i’r digwyddiadau gael eu cysylltu gan arwyddion sy’n symud ar gyflymder goleuni hyd yn oed. Dengys arbrofion mewn labordai fod damcaniaeth Bell yn gywir, ond mae’r dadlau ynglyn ag ystyr hyn yn parhau hyd heddiw.

“Mae’n ymwneud â’r hyn sydd gan Ffiseg i’w ddweud wrthym am y ffordd r’yn ni’n rhyngweithio gyda’r byd go-iawn,” eglura’r Esgob Joanna. “Ac wrth ei ddarllen fe sylweddolais fod angen i ddiwinyddion gymryd sylw. Os mai Duw greodd y byd – fel ry’n ni’n ei gredu iddo’i wneud – ei fyd Ef yw’r byd y mae gwyddonwyr yn rhyngweithio gyda. Os ydych yn ddiwinydd, rhaid i chi ddeall y byd rydym ynddo.

Dydw i ddim yn wyddonydd, a’r cam cyntaf oedd meddwl amdano o safbwynt hanesydd gwyddoniaeth. Gwnes waith ymchwil i gefndir traethawd Bell, wedyn roedd yn rhaid ei ddehongli er mwyn dod i ddeall y mathemateg a chasgliadau Bell.

Edrychais wedyn ar bopeth oedd wedi’i ysgrifennu am y traethawd gan ddiwinyddion eraill, gan archwilio eu sylwadau a dod i fy nghasgliadau fy hunan – nid casgliadau gwyddonol gan mai dyna beth mae gwyddonwyr yn ei wneud. Fel diwinydd, yr unig beth allaf i ei wneud yw myfyrio arno yn ddiwinyddol.”